Tudalen Canu Eisteddfod

 Croeso i wefan Cor Y Gleision!

Ffurfiwyd Cor y Gleision, cor cymysg 60 aelod, fel rhan o gyfres S4/C, Codi Canu. Bwriad y gyfres oedd i ddod a chanu Cymrae nol i'r terasau rygbi.  Roedd gan bob un o'r 4 cor rhestr o ganeuon i ddysgu yn ystod y tymor 2006-7.  Bu rhaid i gorau'r 4 rhanbarth cystadlu yn erbyn ei gilydd trwy ganu ar ochr y cae cyn gem Cymru - Lloegr ym mis Mawrth 2007.  Roedd y cor yn ffodus iawn i ganu Rhyfelgyrch Gwyr Harlech ac er ni enillom ni, roedd y profiad yn un bythgofiadwy!  O ganlyniad penderfynom ni fel cor, o dan arweiniad Delyth Medi Lloyd ac Eilir Owen Griffiths, i barhau i ganu ar ol i'r gyfres S4/C gorffen.

Fe fydd y tudalennau yma yn helpu chi ddysgu mwy am y cor gan gynnwys ble a phryd rydyn ni'n ymarfer.  Mae'r cor yn croesawn aelodau newydd(siaradwyr Cymraeg neu Ddi-Gymraeg) felly edrychwch ar y calendr a dewch u un o'r ymarferion.